|


|
|
Croeso
Hoffai Jim and Anne eich croesawu i’r Ty'n Llan, Tafarn Traddodiadol o’r 16eg Ganrif a leolir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Yn nythu wrth draed Yr Wyddfa, mae’r
Ty'n Llan yn ganolbwynt bywyd y pentref ac yn estyn croeso cynnes i’r niferoedd mawr o ymwelwyr sy’n dod i fwynhau ardal hardd Eryri.
Gallwch fod yn sicr o groeso cynnes wrth i chi fwynhau ein cwrw traddodiadol o flaen tanllwyth o dân. Mae’n bwydlen eang yn cynnig bwyd ffres wedi ei wneud o’r cynnyrch lleol gorau posib, neu gallwch ddewis o’r Prydau Arbennig y Dydd. |
 |
|
Sut bynnag mae’r hwyliau arnoch gallwch ddod o hyd i gornel sy’n eich plesio yn y
Ty'n Llan - efallai y bar ffrynt gyda’i danllwyth o dân neu’r bar cefn lle mae bywyd y pentref yn cael ei drefnu tra mae’r hogiau lleol yn chwarae pŵl. Yn ogystal â hyn mae’r Caban gyda’i lawr pren a’i dân agored, sy’n gallu eistedd i fyny i 45 o bobl mewn awyrgylch hamddenol braf. |
|